Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2018

Amser: 14. - 16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5025


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Suzy Davies AC

Mandy Jones AC

Dai Lloyd AC

Lee Waters AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Alys Thomas (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Bil Deddfwriaeth (Cymru): Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol: Sesiwn dystiolaeth 1

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol. Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am ei gynigion ar gyfer dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol gyda rhagor o gwestiynau.

</AI2>

<AI3>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI3>

<AI4>

3.1   SL(5)287 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018

</AI4>

<AI5>

3.2   SL(5)290 - Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Addasiad Ynysoedd Scilly) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI5>

<AI6>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI6>

<AI7>

4.1   SL(5)285 - Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywodraeth am eglurhad pellach ar y pwyntiau a nodwyd yn ei adroddiad.

</AI7>

<AI8>

4.2   SL(5)288 - Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru a Lloegr) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI8>

<AI9>

4.3   SL(5)289 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

5       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE

</AI10>

<AI11>

5.1   SL(5)284 - Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad er mwyn tynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

</AI11>

<AI12>

5.2   SL(5)286 – Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad er mwyn tynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

 

</AI12>

<AI13>

6       Offerynnau Statudol sydd angen Cydsyniad: Ymadael â'r UE

</AI13>

<AI14>

6.1   SICM(5)8 - Rheoliadau Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gosod cynnig ar gyfer dadl. Cododd Suzy Davies y posibilrwydd o gyflwyno cynnig er mwyn trafod y Memorandwm. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Pwyllgor, ddechrau mis Ionawr, adolygu'r Memoranda a Datganiadau Ysgrifenedig a osodwyd o dan Reol Sefydlog 30C a ystyriwyd hyd yma.

</AI14>

<AI15>

6.2   SICM(5)9 - Rheoliadau Llongau Masnach a Thrafnidiaeth Arall (Diogelu'r Amgylchedd) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a nododd nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gosod cynnig ar gyfer dadl.

</AI15>

<AI16>

7       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI16>

<AI17>

7.1   WS-30C(5)31 - Rheoliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin a Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio Etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI17>

<AI18>

7.2   WS-30C(5)32 - Rheoliadau Sefydliadau Ewropeaidd a Gwarchodaeth Gonsylaidd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI18>

<AI19>

7.3   WS-30C(5)33 - Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI19>

<AI20>

7.4   WS-30C(5)34 - Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio Rheoliadau Domestig) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y pwyntiau a nodwyd gan gyfreithwyr y Cynulliad mewn perthynas â'r datganiad ysgrifenedig.

</AI20>

<AI21>

7.5   WS-30C(5)35 - Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio Amrywiol a Dirymu Deddfwriaeth Uniongyrchol yr UE a Ddargedwir) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y pwyntiau a nodwyd gan gyfreithwyr y Cynulliad mewn perthynas â'r datganiad ysgrifenedig.

</AI21>

<AI22>

7.6   WS-30C(5)36 - Rheoliadau Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon (Diwygiad) (Ymadael i'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI22>

<AI23>

7.7   WS-30C(5)37 - Rheoliadau Pwerau Penderfyniad Cyfiawnhau (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI23>

<AI24>

7.8   WS-30C(5)38 - Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol ac Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio Gweddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI24>

<AI25>

7.9   WS-30C(5)40 - Rheoliadau Masnachu Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI25>

<AI26>

7.10 WS-30C(5)41 - Rheoliadau Protocol 1 i Gytundeb yr AEE (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI26>

<AI27>

7.11 WS-30C(5)42 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth. Croesawodd y Pwyllgor y dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru gyda'r datganiad ysgrifenedig.

</AI27>

<AI28>

8       Papurau i’w nodi

</AI28>

<AI29>

8.1   Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Cyflwyno a Chyhoeddi Adroddiad Terfynol Comisiwn y Gyfraith ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig.

</AI29>

<AI30>

8.2   Llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog: rôl y Cynulliad a'i bwyllgorau wrth graffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at y Prif Weinidog.

</AI30>

<AI31>

8.3   Gohebiaeth â'r Prif Weinidog: Offerynnau Statudol Cyfansawdd ac Offerynnau Statudol ar y Cyd

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda'r Prif Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Gweithdrefnau i ymchwilio ymhellach i'r mater.

</AI31>

<AI32>

8.4   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor ar Graffu ar Reoliadau a wnaed o dan y Bil Masnach.

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

</AI32>

<AI33>

8.5   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Bil Amaethyddiaeth y DU

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

</AI33>

<AI34>

8.6   Llythyr gan y Llywydd: Diwygio'r Cynulliad

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

</AI34>

<AI35>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI35>

<AI36>

10    Trafod y dystiolaeth: Bil Deddfwriaeth (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol.

</AI36>

<AI37>

11    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth y DU : Adroddiad Drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno yn amodol ar rai mân gywiriadau.

</AI37>

<AI38>

12    Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018: Diweddariad

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

</AI38>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>